National Nature Reserve (NNR) and Farm Manager

National Botanic Garden of Wales


Ydych chi’n credu’n gryf mewn ffermio atgynhyrchiol a chadwraeth bywyd gwyllt? Mae Gardd
Fotaneg Genedlaethol Cymru am benodi Rheolwr i’r Warchodfa Natur Genedlaethol a’r
Fferm
yn Waun Las. Bydd gan y sawl a benodir weledigaeth i arwain amaethyddiaeth
atgynhyrchiol yng Ngwarchodfa Natur Waun Las, sy’n 400 erw o gefn gwlad hardd yn cael eu rheoli
fel fferm organaidd i annog bioamrywiaeth, cadw cydbwysedd rhwng lles da byw a glaswelltir
corsiog, coetir gwlyb a dolydd isel, gan ader cynefinoedd, rhoi hwb i fioamrywiaeth a datblygu
ffrydiau incwm newydd. Cewch gyflog gystadleuol o £35 – 43k y flwyddyn, llety di-rent a chyfle
i gydweithio â gwyddonwyr, ffermwyr ac arweinwyr cymunedol. Os gallwch ddelio â chyllidebau ac
allweddi peiriannau codi telesgopig a chwilfrydedd ymwelwyr gyda’r un arddeliad, dewch i dyfu
eich gyrfa, a dyfodol natur, gyda ni yma!

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Adran: Garddwriaeth, Dysgu a Natur
Atebol i: Pennaeth Garddwriaeth, Dysgu a Natur
Lefel (os yw’n gymwys): Rheolwr
Oriau yr wythnos: 37.5

Buddion

Yn ychwanegol i eich cyflog bydd gennych hawl i’r budd-daliadau canlynol:

  • Tâl salwch a cynllun diogelu incwm.
  • Budd cynllun iechyd (Simply Health).
  • Aelodaeth teulu neu aelodaeth o’ch dewis am ddim.
  • Budd marwolaeth mewn gwasanaeth o tair gwaith eich cyflog.
  • Disgownt o 50% yn allfeydd arlwyaeth a disgownt o 10% yn allfeydd eraill.
  • Rhaglen bywyd gwaith/budd-daliadau gweithwyr cymorth am ddim.
  • Pensiwn o 5% – cyfrannol (yn dilynu cwblhad llwyddiannus o’r cyfnod prawf).
  • Cynllun beicio i waith; a
  • Parcio am ddim.

Ynglŷn â’r Ardd

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC) yn Llanarthne yn Sir Gaerfyrddin yn sefydliad o fri
mewn cadwraeth bioamrywiaeth, addysg, ymchwil a rheoli tir yn gynaliadwy. Mae’r ystâd yn
cwmpasu tua 568 erw o erddi sydd wedi eu cadw, casgliadau byw, coetiroedd a fferm sy’n gweithio
bob dydd, ynghyd â Gwarchodfa Natur Genedlaethol (NNR) Waun Las, sy’n ganolbwynt allweddol yn
ymrwymiad GFGC i amaethyddiaeth adferol, cadwraeth bioamrywiaeth a gwrthsefyll newid yn yr
hinsawdd.

Disgrifiad o’r Gwaith

Mae Rheolwr yr NNR a’r Fferm yn gyfrifol am reolaeth strategol a gweithredol Gwarchodfa Natur
Genedlaethol Waun Las a’r fferm, gan sicrhau safonau uchel:

  • Ffermio cynaliadwy, arferion amaeth-ecolegol a lles anifeiliaid.
  • Rheoli tir cadwraeth ac adfer cynefinoedd
  • Gwarchod bioamrywiaeth a rhywogaethau
  • Gwytnwch hinsawdd a strategaethau cadw carbon
  • Ymgysylltu ag ymwelwyr a phartneriaethau cymunedol
  • Cynaliadwyedd ariannol drwy ffrydiau refeniw arloesol

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd ar draws adrannau, gan sicrhau bod amcanion
cadwraeth, cynaliadwyedd, addysg a nodau ariannol GFGC yn cael eu cyrraedd drwy reoli’r
warchodfa natur a’r fferm drwy ddulliau arloesol sy’n cael eu harwain gan wyddoniaeth.

Prif ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Rheoli’r Fferm a’r Tir Cadwraeth yn Gynaliadwy

  • Defnyddio arferion amaethyddol atgynhyrchiol, gan integreiddio rheoli da byw gyda
    chadwraeth bioamrywiaeth.
  • Datblygu strategaethau defnyddio tir sy’n cadw cydbwysedd rhwng cynhyrchu bwyd yn
    gynaliadwy, iechyd yr ecosystem a thirwedd dreftadaeth CADW Gradd ll*.
  • Arwain prosiectau i adfer cynefinoedd, gan gynnwys plannu coed brodorol, adfer tir porfa
    corsiog a gwella iechyd y pridd.
  • Cynnal a rheoli tir pori, cloddiau a choetiroedd yn unol â‘r arferion cadwraeth gorau.
  • Sicrhau cydymffurfio â safonau organaidd (Cymdeithas y Pridd), cynlluniau
    amaeth-amgylcheddol a rheoliadau llywodraeth.

Da Byw a Rheoli Cnydau

  • Goruchwylio systemau da byw gyda phwyslais ar les (e.e. defaid, gwartheg) i gefnogi dulliau
    pori cadwraethol.
  • Monitro iechyd, atgynhyrchu a lles da byw gan sicrhau cydymffurfio a gofynion statudol.
  • Rheoli cylchdroi cnydau cynaliadwy, rheoli glaswelltir a mentrau gwella iechyd y pridd.

Ymgysylltu Proffesiynol, Dysgu a Chefnogi Gwaith Ymchwil

  • Arwain ymweliadau â’r safle gan ran-ddeiliaid proffesiynol, gan gynnwys asiantaethau’r
    llywodraeth, sefydliadau cadwraeth, cyrff amaethyddol a grwpiau rheoli tir, gan ddangos yr
    arferion gorau mewn ffermio atgynhyrchiol a chadwraeth bioamrywiaeth.
  • Gweithio’n agos gyda’r Tîm Gwyddoniaeth i integreiddio gwaith ymchwil i reoli fferm,
    cefnogi casglu data, monitro rhaglenni a chyfnewid gwybodaeth am amaethyddiaeth gynaliadwy a
    gwytnwch ecosystemau.
  • Datblygu a hwyluso ymweliadau dysgu i golegau a phrifysgolion, cefnogi sesiynau addysgol
    sy’n bont rhwng theori ac arfer mewn amaeth-ecoleg, ac addasu i’r hinsawdd.
  • Cyfathrebu arferion ffermio a darganfyddiadau ymchwil drwy adroddiadau proffesiynol,
    cyhoeddiadau’r diwydiant a chynnwys ar-lein, gan atgyfnerthu statws GFGC fel arweinydd wrth
    reoli tir yn flaengar ac mewn arloesi ecolegol.

Cynaliadwyedd Ariannol a Datblygu Mentrau

  • Rheoli cyllidebau’r fferm, rheoliadau cost a chyflwyno adroddiadau ariannol.
  • Drwy ymgynghori â’r Pennaeth Gweithrediadau Masnachol, datblygu ffrydiau refeniw newydd
    drwy arallgyfeirio ar y fferm (e.e. gwerthu cig yn uniongyrchol, cnydau treftadaeth,
    eco-dwristiaeth, gwerthu hadau a gwair gwyrdd).
  • Chwlio’n frwd am grantiau a chronfeydd i alluogi rheoli a datblygu’r NNR a’r fferm.

Partneriaethau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

  • Cydweithredu â sefydliadau cadwraeth a ffermio (e.e. Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin,
    Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, RSPB, Plantlife Cymru, NFU/FUW, Lantra)
  • Ymgysylltu â ffermwyr lleol, ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisi i rannu arferion da.
  • Datblygu partneriaethau gyda phrifysgolion ar gyfer ymchwil mewn amaeth-ecoleg,
    bioamrywiaeth a gwytnwch hinsawdd.

Rheoli’r Ystâd a’r Seilwaith

  • Cynnal a thrwsio seilwaith y fferm, ffensiau, peiriannau ac adeiladau’r ystâd.
  • Goruchwylio rheoli coetiroedd, tocio a chynhyrchu adnoddau naturiol (e.e. golosg, pren).
  • Gweithredu camau iechyd a diogelwch i staff, contractwyr, ymwelwyr a da byw.
  • Paratoi adroddiadau ar sail tystiolaeth ar gyfer amrywiol ran-ddeiliaid, gan gynnwys y
    Cyfarwyddwr, y Bwrdd, a chyrff cydymffurfio a rheoleiddio.
  • Rheoli data’r fferm yn ymwneud â chydymffurfio a pharatoi adroddiad o fewn amserlenni wedi
    eu pennu.

Monitro a Rheoli drwy Addasu

Cefnogi arolygon bioamrywiaeth, monitro cynefinoedd, a phrofi’r pridd i helpu
gwneud penderfyniadau.

  • Defnyddio data’r fferm (e.e. monitro da byw ar sail AI, synwyryddion pridd) i ysgogi
    effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.
  • Defnyddio dull o reoli tir sy’n hyblyg ac yn addasu er mwyn ymateb i effeithiau newid yn yr
    hinsawdd.

Mae disgrifiad llawn o’r swyddi ar gael ar ein gwefan

Sylwch os yw diddordeb yn sylweddol, rydym yn cadw’r opsiwn i gau’r swydd wag yn gynnar a chynnal
cyfweliadau ar sail yn ôl yr angen.


Passionate about regenerative farming and wildlife conservation? The National Botanic Garden of
Wales is seeking a visionary National Nature Reserve & Farm Manager to
spearhead regenerative agriculture at Waun Las National Nature Reserve, 400 acres
of beautiful countryside managed as an organic farm to encourage biodiversity, balancing
high-welfare livestock with marshy grassland, wet woodland, and lowland meadows, restoring
habitats, boosting biodiversity, and developing new income streams. You’ll receive a competitive
£35–43k salary, rent-free accommodation, and the chance to collaborate with scientists, farmers,
and community champions. If you can juggle budgets, telehandler keys, and visitor curiosity with
equal flair, come grow your career, and nature’s future, with us!

National Botanic Garden of Wales

Department: Horticulture, Learning and Nature
Reports to: Head of Horticulture, Learning and Nature
Level (if applicable): Manager
Hours per week: 37.5

About the Garden

The National Botanic Garden of Wales (NBGW), located in Llanarthne, Carmarthenshire, is a
leading institution in biodiversity conservation, education, research, and sustainable land
management. Spanning 568 acres, the estate features curated gardens, living collections,
woodlands, and a working farm, alongside the Waun Las National Nature Reserve (NNR), a key
focus of NBGW’s commitment to regenerative agriculture, biodiversity conservation, and climate
resilience.

Description of Role

The NNR and Farm Manager is responsible for the strategic and
operational management
of the Waun Las National Nature Reserve and farm, ensuring high
standards in:

  • Sustainable farming, agroecological practices and animal welfare
  • Conservation land management and habitat restoration
  • Biodiversity and species protection
  • Climate resilience and carbon sequestration strategies
  • Visitor engagement and community partnerships
  • Financial sustainability through innovative revenue streams

The postholder will work collaboratively across departments, ensuring that NBGW’s
conservation, sustainability, education, and financial objectives are met
through innovative and science-led nature reserve and farm management.

Main Duties and Responsibilities

Sustainable Farm and Conservation Land Management

  • Implement regenerative agricultural practices, integrating livestock management with
    biodiversity conservation.
  • Develop land-use strategies balancing sustainable food production, ecosystem health and a
    CADW Grade II* listed heritage landscape.
  • Lead habitat restoration projects, including native tree planting, marshy grassland
    restoration and soil health improvement.
  • Maintain and manage pastures, hedgerows, and woodlands in line with conservation best
    practices.
  • Ensure compliance with organic standards (Soil Association), agri-environment schemes, and
    government regulations.

Livestock and Crop Management

  • Oversee high-welfare livestock systems (e.g., sheep, cattle) to support conservation
    grazing.
  • Monitor livestock health, reproduction, and welfare, ensuring compliance with statutory
    requirements.
  • Manage sustainable crop rotation, grassland management, and soil health improvement
    initiatives.

Professional Engagement, Learning & Research Support

  • Lead guided site visits for professional stakeholders, including government agencies,
    conservation organisations, agricultural bodies, and land management groups, showcasing best
    practices in regenerative farming and biodiversity conservation.
  • Work closely with the Science Team to integrate research into farm management, supporting
    data collection, monitoring programs, and knowledge exchange on sustainable agriculture,
    conservation land management, and ecosystem resilience.
  • Develop and facilitate learning visits for colleges and universities, supporting
    educational sessions that bridge theory and practice in agroecology, biodiversity, and climate
    adaptation.
  • Communicate farm activities and research findings through professional reports, industry
    publications, and online content, strengthening NBGW’s role as a leader in progressive land
    management and ecological innovation.

Financial Sustainability and Enterprise Development

  • Manage farm budgets, cost controls, and financial reporting.
  • In consultation with the Head of Commercial Operations, develop new revenue streams through
    farm diversification (e.g., direct meat sales, heritage crops, ecotourism, seed sales and green
    hay).
  • Actively seek grants and funds to enable NNR and farm management and development.

Partnerships and Stakeholder Engagement

  • Collaborate with conservation and farming organizations (e.g., Carmarthenshire Nature
    Partnership, Wildlife Trust, RSPB, Plantlife Cymru, NFU/FUW, Lantra).
  • Engage with local farmers, researchers, and policymakers to share best practices.
  • Develop partnerships with universities for research on agroecology, biodiversity, and
    climate resilience.

Estate and Infrastructure Management

  • Maintain and repair farm infrastructure, fencing, machinery, and estate buildings.
  • Oversee woodland management, coppicing, and natural resource production (e.g., charcoal,
    timber).
  • Implement health and safety measures for staff, contractors, visitors, and livestock.
  • Preparing evidence-based reports for various stakeholders including Director, Board,
    compliance and regulatory bodies.
  • Managing compliance related farm data and reporting within legislated timeframes.

Monitoring and Adaptive Management

  • Support biodiversity surveys, habitat monitoring, and soil testing to inform
    decision-making.
  • Use farm data (e.g., AI-based livestock monitoring, soil sensors) to drive efficiency and
    sustainability.
  • Implement a flexible, adaptive land management approach to respond to climate change
    impacts.

A full job description is available on our website.

Please Note: If interest is significant we reserve the option to close the vacancy early and conduct interviews on an as required basis.

How to apply

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (embassyjobs.net) you saw this internship posting.